Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011

 

 

 

Amser:

09:00 - 09:55

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_700000_14_07_2011&t=0

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd)

Mick Antoniw

Rebecca Evans

Russell George

Vaughan Gething

Llyr Huws Gruffydd

Julie James

William Powell

David Rees

Antoinette Sandbach

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Bethan Davies (Clerc)

Catherine Hunt (Dirprwy Glerc)

Gregg Jones (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1.  Ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Ymchwiliad i Ynni - Papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft

2.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig y byddai ei ymchwiliad cyntaf ar ynni. Pleidleisiodd wyth Aelod o blaid y cynnig, un yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod.

 

2.2 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl drafft a rhai o’r diwygiadau.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylid dosbarthu’r cylch gorchwyl drafft diwygiedig i’r Aelodau mewn e-bost er mwyn iddynt ei gymeradwyo.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Ffyrdd o weithio

3.1 Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig i sefydlu dau grŵp gorchwyl a gorffen: un i ystyried y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r llall i ystyried y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Pleidleisiodd pum Aelod o blaid y cynnig, pedwar yn ei erbyn ac ni phleidleisiodd un Aelod. 

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Aelodau’n hysbysu’r Clerc ynghylch pa un o’r grwpiau gorchwyl a gorffen yr hoffent fod yn aelod ohono.

 

</AI3>

<AI4>

4.  Deisebau:  P-03-273 Cludo tyrbini gwynt yn y Canolbarth & P-04-324 Dywedwch Na i TAN 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pwer foltedd uchel difetha ein cymuned

4.1 Trafododd y Pwyllgor y deisebau a chytunodd y dylid eu cynnwys yn ei ymchwiliad i ynni.

 

4.2 Byddai’r Cadeirydd yn ymateb yn ffurfiol i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

 

</AI4>

<AI5>

5.  Cylch gwaith y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - y Cyd-destun Ewropeaidd

5.1 Gwnaeth Gregg Jones o’r Gwasanaeth Ymchwil ym Mrwsel gyflwyniad i’r Pwyllgor am ei rôl a sut y gallai gynorthwyo gwaith y Pwyllgor.

 

</AI5>

<AI6>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>